2011 Rhif 1409 (Cy. 169)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Tenantiaethau Sicr (Diwygio’r Trothwy Rhent) (Cymru) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn diwygio’r swm o rent blynyddol sy’n peri, o dan baragraff 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1988, na chaiff tenantiaeth fod yn denantiaeth sicr pan fo’r rhent blynyddol uwchlaw’r swm hwnnw. Cynyddir y swm hwnnw o £25,000 i £100,000, yn effeithiol o 1 Rhagfyr 2011 ymlaen.

Paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi ohono gan y Gyfarwyddiaeth Dai, Llywodraeth Cymru, Swyddfa Merthyr Tudful, Rhydycar, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.


2011 Rhif 1409 (Cy. 169)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Tenantiaethau Sicr (Diwygio’r Trothwy Rhent) (Cymru) 2011

Gwnaed                                2 Mehefin 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       6 Mehefin 2011

Yn dod i rym                          1 Rhagfyr 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol  gan adran 1(2A) o Ddeddf Tai 1988([1]) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy o ran Cymru([2]):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tenantiaethau Sicr (Diwygio’r Trothwy Rhent) (Cymru) 2011 a daw i rym ar 1 Rhagfyr 2011.

(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Cynyddu’r trothwy rhent

2.(1)(1) Diwygir Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1988 (tenantiaethau na chânt fod yn denantiaethau sicr) yn unol â pharagraff (2).

(2) Ym mharagraff 2(1)(b) o Atodlen 1([3]), yn lle “£25,000” rhodder “£100,000”.

 

 

Huw Lewis

 

Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, un o Weinidogion Cymru.

 

 

2 Mehefin 2011



([1])           1988 p. 50. Mewnosodwyd adran 1(2A) gan reoliad 2 o Reoliadau Cyfeiriadau at Ardrethu (Tai) 1990 (O.S. 1990/434) a pharagraff 27 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hynny.

([2])           Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 1(2A), i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnod ar gyfer  Deddf Tai 1988 yn Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwnnw. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

([3])           Amnewidiwyd paragraff 2(1)(b) gan O.S. 1990/434 a diwygiwyd ef gan O.S. 1993/651.